Mae'r project yma yn cynnwys cod, sgriptiau a dogfennaeth i'ch galluogi i greu a defnyddio peiriannau cyfieithu Cymraeg<>Saesneg Moses-SMT eich hunain.
Mae'r sgriptiau yn hwyluso'n benodol :
- gosod Moses-SMT o docker.com
- gosod Moses-SMT yn uniongyrchol ar gyfrifiaduron/weinyddion Linux
- llwytho i lawr a rhedeg peiriannau cyfieithu'r Uned Technolegau Iaith
- creu peiriannau eich hunain ar sail casgliadau cyfieithiadau eich hunain, neu gorpora cyfochrog gan yr Uned Technolegau Iaith o ffynonellau cyhoeddus, megis Cofnod y Cynulliad a'r Ddeddfwriaeth.
Crëwyd y project yma diolch i nawdd gan Lywodraeth Cymru a CyfieithuCymru - rhaglen gyfieithu gyflawn "yn y cwmwl" ar gyfer cyfieithu rhwng y Gymraeg a’r Saesneg yw CyfieithuCymru a drwyddedir yn fasnachol gan Brifysgol Bangor.
Am ragor o wybodaeth ynghylch cyfieithu peirianyddol ac adnoddau eraill ewch i dudalennau cyfieithu Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol Cymru - techiaith.cymru/cyfieithu
Mae Docker yn dechnoleg pecynnu meddalwedd a hwyluso gosod ar gyfer Linux, Mac OS X a Windows.
Bydd y gorchymyn canlynol gyda Docker yn gosod Moses-SMT ar eich cyfrifiadur:
docker pull techiaith/moses-smt
Dyma enghraifft o sut mae defnyddio'r Moses-SMT o fewn Docker er mwyn rhedeg peiriant cyfieithu (ar sail corpws cyfochrog CofnodYCynulliad
), sy'n cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg :
docker run --name moses-smt-cofnodycynulliad-en-cy -p 8008:8008 -p 8080:8080 techiaith/moses-smt start -e CofnodYCynulliad -s en -t cy
Yna, ewch i dudalen demo y peiriant er mwyn ei weld ar waith : http://localhost:8008
-
docs - yn cynnwys dogfennaeth ar sut i ddefnyddio'r sgriptiau. Yn benodol:
- sut mae gosod Moses-SMT o docker.com a llwytho peiriannau cyfieithu'r Uned Technolegau Iaith i lawr - cliciwch yma...
- sut mae gosod Moses-SMT ar gyfrifiadur arferol - cliciwch yma...
- rhedeg Moses-SMT ar gyfrifiadur arferol - cliciwch yma...
- sut mae hyfforddi Moses-SMT a chreu eich peiriannau eich hunain - cliciwch yma...
-
get - yn cynnwys y sgriptiau a ddefnyddir i baratoi a gosod Moses-SMT yn hwylus ar gyfrifiaduron Linux
-
mtdk - yn cynnwys sgriptiau sy'n hwyluso nodweddion hyfforddi Moses-SMT
- moses.py - cod Python ar gyfer defnyddio holl nodweddion Moses-SMT ar gyfrifiaduron Linux.
- python-server.py - cod Python ar gyfer darparu gweinydd cyfieithu syml ar gyfer y we.
- docker/Dockerfile - y ffeil a ddefnyddir i adeiladu delweddau docker
- docker/moses.py - cod Python ar gyfer rhedeg Moses o fewn Docker